top of page

Y Mimosa

Llong hwylio oedd y Mimosa, Tea Clipper wedi'i haddasu i gludo pobl, efo 447 tunnell o gynhwysedd. Teithiodd tua 160 o Gymry arni i Batagonia yn yr Ariannin (i ran a elwir bellach yn: Wladfa) a hynny yn 1865.

Gadawodd Lerpwl yn Lloegr ar 28 Mai, 1865 a chyrraedd Borth Madryn (heddiw: Puerto Madryn) ym Mae Newydd (Golfo Nuevo yn Sbaeneg), Patagonia ar ôl taith o 2 fis, ar 28 Gorffennaf. Er fod y tywydd yn dda yn ystod y daith, roedd bywyd yn galed iawn a bu nifer o blant farw. Ysgrifennodd Joseph Seth Jones, argraffydd o Ddinbych, ddyddiadur ar y llong sydd yn dangos pa mor galed oedd y daith.

Stamp answyddogol i ddathlu canmlwyddiant glanio'r 'Mimosa' (1865-1965)

Ar y dechrau, roedd yn rhaid byw mewn ogofau clogwyn ar draeth Porth Madryn am amser, ac ar ôl mynd i Rawson roedd yn rhaid dygymod â'r tir gwahanol a hinsawdd dieithr, ac roedd prinder bwyd yn parhau am rai blynyddoedd.

Mae olion yr ogofau lle roedd y Cymry'n byw yn ystod y cyfnod cyntaf i'w weld erbyn heddiw.

bottom of page