top of page

Cysylltiad Heddiw

Mae’r Archentwyr sydd wedi dod o dras Gymreig heddiw yn falch iawn o’u gwreiddiau Cymreig ac mae'r Gymraeg i'w chlywed mewn rhai cymunedau bychain hyd heddiw. Mae cyfraniad y Cymry at yr Ariannin yn rhywbeth i fod yn falch ohono ac yn rheswm teilwng i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa Gymreig!

Mae tua wyth Eisteddfod yn cael eu cynnal yn y Wladfa yn flynyddol. Y prif rai yw Eisteddfod y Wladfa yn Nhrelew ac Eisteddfod Bro Hydref yn Nhrevelin. Mae seremoni'r Orsedd yn cael ei chynnal yn y Gaiman cyn Eisteddfod y Wladfa. Mae’r Eisteddfod yn para dau ddiwrnod. Y plant a'r bobl ifanc sy'n cystadlu ar y dydd Gwener a'r oedolion sy'n cystadlu ar y dydd Sadwrn.

bottom of page