top of page

Erbyn y 1840au, roedd llawer o ymfudo o Gymru, yn bennaf i'r Unol Daleithiau. Yn 1856, ffurfiwyd cymdeithas yn Camptonville, Califfornia, i geisio sefydlu gwladfa Gymreig. Yma, i bob golwg, y soniwyd gyntaf am Patagonia fel lleoliad posibl i'r Wladfa yma. Gyrrwyd llythyron i bapurau Cymraeg i ofyn am gefnogaeth, a threfnodd Michael D. Jones gyfarfod cyhoeddus yn Y Bala, lle ffurfiwyd cymdeithas arall. Dilynwyd hon gan gymdeithasau eraill yng Nghymru, gyda'r gymdeithas yng Nghaernarfon yn arbennig o bwysig.

Un o'r arweinwyr pwysicaf yn yr Unol Daleithiau oedd Edwin Cynrig Roberts (1838 - 1893). Roedd ef yn enedigol o bentref Cilcain yn Sir Fflint, ond ymfudodd gyda'i deulu i Wisconsin yn 1847. Daeth yn amlwg yn y mudiad Gwladfaol, a phan fethwyd trefnu i garfan o Gymry o America deithio i Batagonia yn 1859, bwriadodd ymfudo yno ar ei ben ei hun. Fe'i perswadiwyd i deithio i Gymru i chwilio am eraill a oedd yn barod i ymfudo i Batagonia, a daeth i gysylltiad â Michael D. Jones. Teithiodd drwy Gymru yn siarad ar y pwnc, a daeth yn rhan o gymdeithas o'r enw Cymdeithas Wladychol Lerpwl oedd wedi ei ffurfio yn Lerpwl yn 1861 i drefnu'r fenter. Ymhlith yr arweinwyr roedd Lewis Jones a Hugh Hughes (Cadfan).

Dyma luniau o'r Cymry cyntaf ym Mhatagonia.

Y Cymry Cyntaf

bottom of page